Radio

Disg i’r Dolig

Mae’r cerddor a rheolwr label, Dai Lloyd, sydd wedi cael llwyddiant gyda sengl Nadoligaidd ei fand ‘Skep’, yn ymchwilio’r ffenomenen blynyddol o ganeuon Nadoligaidd – beth sy’n gwneud cân Nadoligaidd dedwydd, boblogaidd a sut mae creu un? Mae’n ceisio ateb y cwestiwn mawr – pam nad oes mwy o ganeuon pop Cymraeg Nadoligaidd llwyddianus?

Mae Dai’n siarad â cherddorion sydd wedi creu caneuon Nadolig –Caryl Parry Jones, Mei Gwynedd, Y DJ Gareth Potter ac hefyd gyda Huw Stephens a ryddhauodd albym o ganeuon Nadoligaidd Cymraeg trwy ei label recordiau. Fel rhan o’r daith mae Dai yn creu cân Nadolig newydd sbon erbyn diwedd y Rhaglen.

Dai Lloyd looks at the phenomenon of the Christmas single and asks what makes a successful Christmas song?

https://www.bbc.co.uk/programmes/b09hxdpc

Gwrandwch ar y gân orffenedig! https://www.youtube.com/watch?v=oL3G9QyfujE