Radio

Y Cwis Mawreddog

Cwis hwyliog, gyda thafod yn y boch, yn nodi deugain mlwyddiant Radio Cymru yn 2017.

Gary Slaymaker sy’n holi’r cwestiynau, ac Eleri Siôn a Beti George yw’r capteiniaid sy’n ceisio cadw trefn ar Hywel Gwynfryn, Shân Cothi, Kevin Davies a Dylan Ebenezer.

Cwis yn dathlu 40 mlynedd o Radio Cymru, felly cwis gyda phwyslais mawr ar adloniant yn hytrach na chystadlu.  Mae’r rowndiau yn cynnwys archif doniol drwy’r blynyddoedd, ond rheini yn tanio atgofion am straeon a throeon trwstan. 

https://www.bbc.co.uk/programmes/b092nvtp