Radio

Siwgwr Lwmp

Slaymaker siwgwr lwmpErs cael gwbod bod ganddo glefyd y siwgwr Math 2, rhyw 5 mlynedd yn ôl, mae Gary Slaymaker wedi bod yn trafod y cyflwr yn ei sioeau ‘stand-up’. Nawr, mae e wedi casglu’r deunydd mewn i un set gyflawn, ac yn trafod ei brofiadau wrth ddelio’r gyda’r afiechyd – o’r amser gath e’r deiagnosis, i’r pethau mae e wedi dysgu ar y ffordd; i fel mae’r cyflwr wedi effeithio ar ei fywyd dydd i ddydd. Gan bod y rhaglen hefyd yn cydfynd gyda diwrnod rhyngwladol clefyd y siwgwr, mae Gary wedi holi arbennigwyr yn y maes, ac eraill sy’n delio gyda’r cyflwr; er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r afiechyd, a chodi ambell pwl o chwerthin ar yr un pryd.
https://www.bbc.co.uk/programmes/b06pj919